Beth yw fy fferyllfa ddewisol?
Chi sy’n dewis eich fferyllfa ddewisol, a bydd eich meddygfa’n ei nodi ar eich cofnod. Dyma’r fferyllfa y bydd eich meddygfa yn anfon eich presgripsiynau ati, os ydynt yn cynnig y gwasanaeth hwn, a’ch bod chi’n cofrestru ar ei gyfer.
I weld eich fferyllfa ddewisol:
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif Gwasanaethau Cleifion yn y ffordd arferol.
- Dewiswch Fy Mhresgripsiynau .
- Bydd eich sgrin Presgripsiynau yn ymddangos, gyda Fy Fferyllfa yn y cornel ar yr ochr dde ar frig y sgrin, a bydd eich fferyllfa ddewisol bresennol yn ymddangos.
- I newid y fferyllfa, cysylltwch â’ch meddygfa’n uniongyrchol.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.